Cymdeithasau Gweithredol

Dyma oedd y grwp gweithio cyntaf yn y partneriaeth i gael ei greu. Ei nod oedd i ddod a bawb sy’n gweithio ar y llawr i ddatblygu lle i rannu a chydweithio syniadau, gweithredoedd a diddordebau tuag at greu rhwydwaith gweithredol o grwpiau cymunedol sy’n gweithio gyda’u gilydd i garu ac i adfer ein afon. an active network of community groups, working together to love and restore the river. Roedd y cyfarfod cyntaf yn cyfle i rannu gwybodaeth am y gwaith sy’n digwydd yn barod. Wrth i’r grwp datblygu ei nod bydd i sefydlu fforwm ar gyfer fwy o ymgysylltu. Hefyd gobeithiwn cyfle i gymunedau’r Dalgylch gallu darparu eu mewnbwn yn y proses cynlluno, a chymryd perchnogaeth o’r gweithrediadau sydd eu hangen ar gyfer gwytnwch cymunedol. Os hoffech fod yn rhan o’r grwp ebostiwch Uskpartnership@beacons-npa.gov.uk

Caru ein Hafonydd

Ym Mis Medi fe gychwynodd ymgyrch ‘Caru ein Hafonydd’ Bannau. Rhaglen codi ymwybyddiaeth yw hi, sydd wedi ei haneli at ysbrydoli unigolion a busnesau i ymroddi i achub yr afonydd – trwy addo i’w caru ac i geisio creu newidiadau syml i wella’r ansawdd dwr.

Mae hefyd cyfle i unigolion gofrestru eu diddordeb yng ngwaith Partneriaeth Dalgylch yr Wysg.
Os ydych chi’n darllen hwn mae siawns eich fod wedi cofrestru i’r adduneb. Croeso! Rydym yn gobeitio bod yr unigolion sydd wedi glanio ar y tudalen am ymuno a gwaith y cymunedau gweithredol yn y dyfodol.

Ymgysylltu ehangach

Mae cynlluniau ar gyfer ymgysylltu ehangach yn y partneriaeth yn parhau gyda thair cainc amlwg yn dod i’r amlwg;

  • Ymgysylltu cymunedol – digwyddiad galw heibio am stori – cyfle i gymunedau rhannu storiau sy’n ymnwud a’r afon, pwysigrwydd yr efon iddyn nhw, ac eu gobeithion am y dyfodol, yn ogystal a sut byddwn yn casglu diddordeb mewn fforwm fwy ffurfiol sy’n cefnogi’r partneriaeth.
  • Busnes – digwyddiad ymgysylltu ar-lein – i gynnig cyfle i busnesau a mudiadau eraill i gofrestru eu diddordeb a dealltwriaeth o’r afon, er enghraifft ei werth economaidd o ganlyniad i dwristiaeth.
  • Ffermwyr – Digwyddiad dysgu ar safle fferm – yn dod a ffermwyr o’r dalgylch at eu gilydd gyda mudiadau eraill (Llywodraeth Cymru/CNC/APCBB) i ddysgu am y problemau a’r cyfleuoedd i gyfalafu ar gwelliannau. Bydd hwn yn cael ei arwain gan ffermwyr.