Amdanom Ni
Mae Partneriaeth Dalgylch Yr Wysg yn fenter sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae’n dod a chyrff statudol a phartïon o ddiddordeb, ynghyd o amgylch nod cyffredin, i adfer iechyd ecolegol a gwytnwch yr Afon Wysg a’i thalgylch.
Mae’r bartneriaeth yn cael ei gynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r aelodaeth yn cynnwys:
Dwr Cymru Welsh Water
Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyngor Sir Fynwy
Cyngor Sir Powys
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Ymddiriedolaeth Natur Gwent
Sefydliad y Gwy a’r Wysg
Achubwch ein Wysg
Grwp Dwr Bannau
Mae aelodau’r partneriaeth yn gweithio gyda’u gilydd i ddatblygu cynllun gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth sydd am gyflawni ystod o ganlyniadau sy’n ymwneud ag ansawdd dŵr; perygl llifogydd; adferiad natur a chymunedau gwydn.
Grwp Craidd
Ym Mis Medi 2023 fe gafodd y Grwp Craidd ei drydydd cyfarfod yn estad prydferth Penpont. Roedd gan y grwp agenda llawn. Edrychom nhw ar ddrafft cyntaf y cynllun gweithredu, ar gynnig am sut i ddod a llais i natur i fewn i’r partneriaeth, ac ar werthusiad olaf cyfansoddiad y grwp.
Hwb Gwybodaeth
Cefnogir gwaith y bartneriaeth gan grŵp o arbenigwyr sy’n casglu’r tystiolaeth gorau sydd ar gael i gefnogi gwaith y Grŵp Craidd. Cynhaliwyd eu cyfarfod cyntaf ar Hydref 19eg. Canolbwyntiodd y grwp ar ffyrdd o weithio ac ar gynllun gwaith datblygol ar gyfer y grŵp
Cymdeithasau Gweithredol
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf is-grŵp Cymunedau Gweithredol y Wysg ar-lein ar Fedi 6ed. Roedd hwn yn gyfle i gael pawb yn y bartneriaeth at ei gilydd i siarad am rai o’r gweithgareddau sy’n digwydd ar y llawr ac yn y wlad i helpu’r Wysg, i rannu gwybodaeth ac i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cydweithio.
Canlyniadau a Manteision
Mae’r tudalen Canlyniadau a Manteision yn amlinellu yr effeithiau positif a’r manteision sy’n dod o weithredoedd cydweithredol Partneriaeth Dalgylch yr Wysg. Mae’r canlyniadau a’r manteision hyn wedi cael eu dylunio i wella iechyd a chynaladwyedd yr afon, ei ecosystemau a’r cymunedau o’i gwmpas.