Canlyniadau i Gymunedau’r Wysg

Afon lân, afon sy’n amlwg yn gyfoethog mewn natur afon, sy’n hawdd ei
chyrraedd ac yn bleserus i bawb.

Afon yr ydym yn teimlo cysylltiad dwfn iddi, ac mae’r cysylltiadau hynny’n cael eu dathlu yn niwylliant a stori ein lle.

Ble drwy weithredu ar y cyd rydym wedi dod yn stiwardiaid ein hafon ar y
cyd – gan gymryd camau i reoli risgiau llifogydd a sychder yn y ffordd yr ydym
yn defnyddio dŵr ac yn rheoli gwastraff yn ein cartrefi, ein cymunedau a’n busnesau

Lle rydym yn ymddiried ac yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau i
sicrhau bod y safonau gorau yn cael eu cymhwyso a’n bod yn cymryd cyfrifoldeb am ein rhan i wneud i hynny ddigwydd.

Yn fwy fanwl;

  • Mae gan bob pentref a thref yn y dalgylch systemau arbed dŵr/ ailgylchu wedi’u hôl-osod gan gynnwys trawsnewid gerddi preifat a chyhoeddus yn erddi glaw.
  • Mae systemau gwastraff preifat yn cael eu gwasanaethu ac yn gweithredu heb berygl o lygredd.
  • Mae datblygiad newydd yn digwydd mewn ffordd sy’n niwtral o ran dŵr a maethynnau neu’n net positif
  • Dim ond cynhyrchion diogel amgylchedd dŵr sydd ar gael i’w prynu’n lleol (heb ffosffad / llygryddion).
  • Mae gan bawb fynediad at wybodaeth am werth yr afon a sut y gallant ei diogelu.
  • Gall aelodau’r gymuned brynu ystod eang o fwyd lleol am brisiau fforddiadwy sydd wedi’i gynhyrchu mewn modd sy’n helpu i gynnal ac adfywio’r dalgylch ar gyfer natur a’r hinsawdd ac sy’n cynhyrchu cyflogaeth o ansawdd da wrth ei gynhyrchu.

Canlyniad i Natur yr Wysg

Amgylchedd lle gall natur ffynnu heb ei feddiannu gan effaith dynol.
Lle mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaladwy ac yn adfywiol gan bobl sy’n gwerthfawrogi’r weithred er budd cyhenid i bawb.
Mae’r holl gamau sy’n cael eu cymryd o fewn y Wysg yn darparu budd net tuag at adfer natur a lliniaru / addasu dirwedd.

Mae hwn yn golygu atebion i gynllunio sy’n seiliedig ar natur, ac sy’n cydnabod hinsawdd.

Yn fwy fanwl;

  • Mae holl nodweddion sy’n dynodi’r Wysg fel ardal cadwraeth arbennig mewn cyflwr ffafriol, ac mae’r cyflwr yma yn cael ei gynnal am byth.
  • Lefelau maethynnau o fewn terfynau diogel yn unol a chanllawiau JNCC.
  • Mae ecosystemau yn amrywiol, o raddfa briodol i gefnogi eu hymarferdoldeb, mewn cyflwr da, wedi’i cysylltu ac yn wydn.
  • Cefnogi prosesau naturiol a lle bo angen cymorth i ailsefydlu gwaith yny dyfodol (mawndir, coedtir, pridd, gorlifdiroedd).

Canlyniad i Reolwyr Tir ar yr Wysg

Rhwydwaith gwydn o glystyrau rheolwr ffermio/tir, sy’n cael eu dathlu a’u gwobrwyo am eu harferion cynaliadwy adfywiol – sydd a busnesau cryf, hyfyw ac amrywiol – ac sy’n ysbrydoli gweithredu mewn eraill.

Lle rydym ni fel ffermwyr yn cael ein hadnabod a’n parchu fel gwarcheidwaid y tir ac yn teimlo balchder i sicrau bod y tir o fewn ein gofal mewn iechyd ecolegol da.

Dalgylch ble mae ffermwyr yn cael eu hadnabod fel cymuned o stiwardiaid amgylchddol, sy’n cynhyrchu dogon o ddwr glan, awyr lan, storio carbwn a chynhyrchu bwyd iachus sy’n cael eu gwerthu i farchnadoedd lleol am bris teg.

Rydym yn cefnogi busnessau allanol a chyllid i fynd y tu hwnt i wyrddio, i gefnogi adferiad natur mewn ffordd sy’n gyfiawn yn gymdeithasol.

Yn fwy fanwl;

  • Mae gan bod rheolwr tir a busnes fferm yn y dalgylch ddealltwriaeth fanwl o’r camau sydd eu hangen ar bob fferm i wella ansawdd a maint dwr, gwella bioamrywiaeth ac atafaelu carbon, a sy’n cael mynediad i gymorth economaidd ac ymarefrol hir-dymor wrth weithredu.
  • Rheoli gwastraff ar ffermydd trwy gydol y dalgylch, sy’n creu cyllid amrywiol, gan ddileu’r angen i brynu maetholion ychwanegol.
  • Mae cyfundrefnau pori yn cael eu gwneud i’r eithad ar gyfer cadw dwr ac ansawdd pridd.
  • Mae cynllun sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn weithredol gan ddarparu buddion dosbarthiedig i reolwyr tir sy’n cyfrannu at adfer ecolegol dalgylch yr Wysg.